Cleientiaid Unigol
Gwasanaethau a Gynigiwn
Cynilion a Buddsoddiadau
Mae’n bwysig adolygu eich portffolios cynilion a buddsoddiadau yn rheolaidd, i sicrhau eu bod yn dal i ddiwallu eich gofynion ac anghenion. Efallai fod eich nodau ac amcanion buddsoddi wedi newid. Rydym ni’n sicrhau bod eich strategaeth fuddsoddi yn adlewyrchu hyn. Efallai y byddwch yn ymddeol cyn hir neu eich bod yn ystyried dechrau cynilo ar gyfer eich ymddeoliad, felly mae’n bosib eich bod eisiau ystyried ail-strwythuro eich portffolio neu roi ychydig mwy ynddo gydag incwm gwario sydd gennych dros ben.
Oherwydd bod cynifer o wahanol fathau o gynlluniau buddsoddi a chynilo ar gael, mae’n gwneud synnwyr eich bod yn ceisio cyngor proffesiynol. Byddwn yn cynghori ar y math priodol o fuddsoddiad ar gyfer eich cynlluniau cyfredol, eich dyheadau ar gyfer y dyfodol a’ch agwedd at risg. Credwn fod angen adolygu pob math o gynilion a buddsoddiadau yn rheolaidd.
Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am y cynhyrchion rydym yn cynghori arnynt.
Morgeisi
Mae ein gwasanaethau morgais yn gynhwysfawr ac yn berthnasol i brynwyr tro cyntaf, landlordiaid, morgeisi masnachol ac ailforgeisio.

Diogelu
Mae diogelu’r pethau rydych yn eu gwerthfawrogi fwyaf mewn bywyd (eich teulu, eich cartref neu eich safon byw) yn dibynnu i raddau helaeth ar eich cyfoeth personol.
Er mwyn diogelu’r pethau pwysicaf yn eich bywyd, mae angen ichi gynllunio ar gyfer y pethau disgwyliedig (ymddeol, marwolaeth) a’r pethau annisgwyl (damwain, diweithdra a salwch difrifol).
Mae rhoi arian i un ochr ar gyfer diwrnod glawog yn syniad da, ond efallai na fydd eich cynilion yn ddigon i dalu eich holl gostau os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd.
Un o’r ffyrdd hawsaf a mwyaf cyffredin o ddiogelu eich asedau yw drwy yswiriant – boed hynny i ddiogelu eich teulu, eich safon byw, eich iechyd neu hyd yn oed eich cartref.
Mae llawer o wahanol fathau o yswiriant, ond mae swyddogaeth sylfaenol pob un yr un fath: eich diogelu chi a diogelu eich anwyliaid rhag colled neu gostau ariannol annisgwyl.
Cysylltwch â ni i gael cyngor ar atebion priodol.
Cynllunio ar gyfer Ymddeol
Cyn ymddeol, wrth edrych ar bensiynau, mae pentwr o gwestiynau’n codi, ond yn aml iawn nid oes llawer o atebion i’w cael. Gall ein cynghorwyr eich helpu i edrych ar eich cynlluniau ariannol ar gyfer ymddeol, adolygu eich darpariaeth bresennol a’ch helpu i ddeall eich opsiynau’n well.
Pan fyddwch yn cyrraedd oed ymddeol, mae’n bosib iawn mai’r penderfyniad unigol mwyaf a wnewch o ran eich cynlluniau ariannol fydd penderfynu sut i ddefnyddio’ch arian. Mae amrywiaeth eang o opsiynau ar gael, a gall ein cynllunwyr ariannol ystyried y rhain i gyd a helpu i deilwra’r ateb gorau i gyd-fynd â’ch dyheadau o ran eich ymddeoliad
Gall gwerth buddsoddiadau a’r incwm sy’n deillio ohonynt ostwng yn ogystal â chodi. Efallai na fyddwch yn cael gymaint yn ôl ag y gwnaethoch ei fuddsoddi yn y lle cyntaf.